Syr John Chilcot
Mae Syr John Chilcot yn wynebu camau cyfreithiol gan deuluoedd y rhai gafodd eu lladd yn rhyfel Irac wrth iddo wrthod cyhoeddi amserlen ar gyfer cyhoeddi ei adroddiad.

Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad i ryfel Irac, ei fod yn deall gofidion y teuluoedd hynny ond fe rybuddiodd ei bod hi’n “hollbwysig fod yr adroddiad yn un teg”.

Mae hefyd wedi amddiffyn y broses ‘Maxwellisation’ sy’n golygu bod yr ymchwiliad yn ceisio cael ymateb gan bawb sydd wedi’u beirniadu cyn i ganfyddiadau’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

Daeth datganiad Syr John Chilcot yn sgil pwysau cynyddol arno i esbonio’r oedi cyn cyhoeddi’r adroddiad – chwe blynedd ers ei gomisiynu gan y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown.

Dywedodd Chilcot bod yr ymchwiliad yn disgwyl derbyn yr olaf o’r ymatebion Maxwellisation “yn fuan” ac y gallai wedyn gyhoeddi amserlen ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad.

Ond mae teuluoedd y rhai gafodd eu lladd yn rhyfel Irac wedi wfftio ei esboniad ac maen nhw’n bygwth cynnal adolygiad barnwrol ei mwyn ei orfodi i gyhoeddi’r adroddiad.