Mae syrffiwr wedi’i anafu’n ddifrifol gan siarc oddi ar arfordir canolbarth dwyrain Awstralia.

Mae’r dyn 38 mlwydd oed wedi diodde’ anafiadau sy’n bygwth ei fywyd tra’n syrffio ddiwedd dydd gyda ffrind yn Port Macquarie, 200 milltir i’r gogledd o ddinas Sydney.

Mae wedi’i gludo i ysbyty lleol, ac mae disgwyl iddo gael ei hedfan i Sydney yn ddiweddarach.

Dyma’r 111eg ymosodiad gan siarc ar y darn hwn o arfordir De Cymru Newydd, lle cafodd ymwelydd o Japan ei ladd ym mis Chwefror eleni.

Mae nifer o siarcod yn byw oddi ar arfordir Awstralia, ond mae ymosodiadau angheuol yn brin iawn.