Fe fu’n rhaid i orsaf danddaearol brysur yn Llundain gau dros-dro heddiw oherwydd nad oedd digon o staff ar gael i weithio.

Fe fu gorsaf Oxford Circus, yng nghanol prifddinas Lloegr, ar gau rhwng 8.58yb a 9.46yb, ac oherwydd hynny doedd hi ddim yn bosib i deithwyr esgyn na disgyn yno. Doedd trenau chwaith ddim yn stopio yn yr orsaf danddaearol sy’n cynnig cysylltiadau pwysig a phoblogaidd rhwng llinellau Bakerloo, Central a Victoria.

“Oherwydd prinder staff, roedd gorsaf danddaearol Oxford Circus ar gau am gyfnod byr heddiw,” meddai llefarydd ar ran Transport For London. “Mae’r broblem hon bellach wedi’i datrys, ac mae’r holl drenau yn stopio yno fel arfer.

“Yn ystod cyfnod y bu’r orsaf ar gau, roedd cwsmeriaid yn gallu defnyddio gorsafoedd eraill yn yr ardal, yn cynnwys Bond Street, Piccadilly Circus a Tottenham Court Road.”