Mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, yr Arglwydd McConnell, wedi disgrifio’r ras am arweinyddiaeth y blaid yn Brydeinig, fel “shambyls”.
Mae wedi beirniadu’n llym y penderfyniad i roi pleidlais i “aelodau newydd” dros yr ha’ tra bod yr ymgyrch yn dal i fynd rhagddi. Ac fe rybuddiodd hefyd na ddylai’r modd y mae’r arweinydd newydd yn cael ei ddewis, fod yn bwrw cysgod dros bwysigrwydd ethol arweinydd.
Mae mwy na 120,000 o bobol wedi ymaelodi er mwyn gallu pleidleisio am arweinydd newydd, gyda 189,000 a mwy o aelodau undebau a chymdeithasau eraill hefyd yn gymwys i fwrw croes, gan fynd â chyfanswm y pleidleisiau i dros 600,000.
“Mae hon yn sefyllfa wirion,” meddai’r Arglwydd McConnell ar raglen Newsnight. “Fedra’ i ddim credu na wnaeth neb uchel i fyny yn y blaid leisio pryderon dros y drefn yma, a hynny pan gafodd y penderfyniadau gwreiddiol eu gwneud ym mis Mai.
“Mewn nifer o ffyrdd, mae’n dangos yr hyn sydd o le yn y ffordd y mae’r blaid wedi cael ei rhedeg dros y blynyddoedd diweddar,” meddai wedyn. “Ac efallai ei fod o’n egluro pam ein bod ni yn y llanast yma yn y lle cynta’.
“Ar ddiwedd y dydd,” meddai wedyn, “mae angen i ni fod yn ofalus iawn nad ydan ni’n gadael i hyn i gyd fwrw cysgod ar bwysigrwydd y ffaith ein bod ni’n ethol arweinydd newydd sydd â’r weledigaeth a’r gwerthoedd cywir i fynd â’r blaid a’r wlad yn eu blaenau dros y blynyddoedd nesa’.”