Oscar Pistorius
Mae gan fwrdd adolygu yn Ne Affrica hyd at bedwar mis i benderfynu p’un ai fydd y parathletwr, Oscar Pistorius, yn cael ei ryddhau o’r carchar i dreulio gweddill ei ddedfryd yn gaeth i’w gartre’.
Roedd Oscar Pistorius wedi gwneud cais i gael ei ollwng yn rhydd fory, ond mae hynny bellach wedi’i ohirio, gyda gwrthwynebwyr yn dweud fod y penderfyniad gwreiddiol wedi ei gymryd yn rhy fyrbwyll.
Yn ôl y weinyddiaeth gyfiawnder yn Ne Affrica, fe gafodd y penderfyniad ei wneud rhyw wyth mis i mewn i ddedfryd bum mlynedd yr athletwr. Mae’r gyfraith yn mynnu na ddylai’r penderfyniad gael ei wneud tan o leia’ ddeng mis i mewn i’r ddedfryd.
Fe gafodd Oscar Pistorius ei ddedfrydu y llynedd, wedi i lys barn ei gael yn euog o ddynladdiad ei gariad, Reeva Steenkamp ar Chwefror 14, 2013.