Mae ffermwr 26 oed a laddodd ddynes gyda’i dractor, wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a hanner o garchar.

Fe gafwyd Henry Bett, mab i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Swydd Norfolk, Stephen Bett. yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, ar ddiwedd achos yn ei erbyn y mis diwetha’.

Roedd wedi lladd Rebecca Brown, mam i bedwar, 43 oed, pan yrrodd ei dractor yn syth i mewn i’w char Fiat. Roedd ei mab hefyd yn teithio yn y car ar y pryd.

Fe glywodd y rheithgor yn Llysoedd Barn Huntingdon ei fod yn goryrru, yn gyrru yng nghanol y ffordd, ac y gallai ar y pryd fod yn teimlo sgil effeithiau ‘dod i lawr’ o ddefnyddio cocên.

Roedd Henry Bett yn wylo yn y doc wrth i’r Barnwr Peter Murphy gyhoeddi’r ddedfryd.