Mae ymosodiadau o’r awyr gan lywodraeth Pacistan, wedi lladd 43 o wrthryfelwyr yng ngogledd-orllewin y wlad.
Mewn datganiad, mae’r llywodraeth yn honni fod y gwrthryfelwyr wedi’u lladd mewn dau bentre’ yn rhanbarth Gogledd Waziristan, ger y ffin ag Afghanistan. Does dim manylion ar hyn o bryd ynglyn â phwy sydd wedi’u lladd, nac o ba wledydd maen nhw’n hanu.
Mae newyddiadurwyr wedi’u gwahardd rhwng mentro i’r ardal dan sylw.
Mae byddin Pacistan wedi bod yn cynnal ymgyrch filwrol yng Ngogledd Waziristan ers mis Mehefin, 2014, er mwyn ceisio cael gwared â gwrthryfelwyr lleol a thramor o’r ardal.
Ers ychydig dros flywyddyn, mae’r fyddin yn honni ei bod wedi lladd tua 3,000 o wrthryfelwyr.