Aur y Natsïaid... wedi'i ganfod yng ngwlad Pwyl
Mae un o drên y Natsïaid, yn llawn trysor, gemau a darnau celf gwerthfawr, wedi’i chanfod yng ngwlad Pwyl – a hynny wedi iddi fod ar goll ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Yn ôl un o swyddogion dinas Walbrzych, lle cafodd y trên ei chanfod, y cynta’ glywodd yr awdurdodau am y darganfyddiad oedd pan gysylltodd cyfreithiwr dau ddyn – y naill yn Almaenwr a’r llall o wlad Pwyl – i hawlio gwobr am ddatgelu lle’n union oedd y trên. Maen nhw’n hawlio 10% o werth y trysorau.
Mae awdurdodau’r dre’ yn cymryd yr achos o ddifri, ac maen nhw eisoes wedi cynnull ymladdwyr tân, heddweision a gwasanaethau eraill i fynd i ymchwilio’r safle ac i ddod â’r trên oddi yno’n ddiogel. Mae’n bosib y gallai’r lleoliad fod wedi’i amgylchynu a’i ddiogelu gan ffrwydron.
Y gred ydi fod y trên wedi ’diflannu’ yn ystod dyddiau ola’ un y rhyfel, wrth i’r Almaenwyr ddianc rhag lluoedd yr Undeb Sofietaidd.