Mae dwy awyren yn cario dwsinau o neidwyr parasiwt, wedi bod mewn gwrthdrawiad yn yr awyr uwchben gorllewin Slofacia. Mae saith o bobol wedi’u lladd.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ger pentre’ Cerveny Kamen, dim yn bell o’r ffin â’r Weriniaeth Tsiec, yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth tân lleol.
Mae ymholiadau cychwynnol yn awgrymu fod cymaint â 40 o bobol ar fwrdd y ddwy awyren Let L-410 ar adeg y ddamwain a ddigwyddodd ar uchder o 5,000 o droedfeddi.
Fe oroesodd y parasiwtwyr oherwydd eu bod wedi llwyddo i neidio allan cyn i’r ddwy awyren daro’n erbyn ei gilydd.