Jamie Blake (Llun: Heddlu Gwent)
Mae dyn 25 o Gasnewydd wedi’i ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar am gadw gynnau taser yn y ty.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod Jamie Blake wedi ceisio cuddio’r gynnau trwy gymryd arno mai ffôn symudol a fflachlamp oedden nhw.

Ond fe’i cafwyd yn euog o fod ag arfau gwaharddedig yn ei feddiant.

“Mae hi’n drosedd i fod yn berchen ar gwn taser o unrhyw fath,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent, “dim ots os yw’n cael ei gadw’n breifat. R’yn ni’n falch gyda chanlyniad yr achos hwn.”