Quito, prifddinas Ecwador
Mae protestwyr brodorol wedi eu harfogi â gwaywffyn yn ne-ddwyrain Ecwador wedi anfon yr heddlu a milwyr ar ffo mewn gwrthdaro sydd wedi anafu wyth o bobol.
Amcangyfrif bod tua o 200 o bobloedd brodorol y Shuar a’r Achuar wedi codi arfau yn nhref Macas yn yr Amazon mewn oherwydd eu bod wedi eu cythruddo gydag Arlywydd y wlad, Rafael Correa, sydd wedi gwrthod ymgynghori â nhw ar fwyngloddio a drilio olew ar eu tiroedd traddodiadol.
Mae cannoedd o brotestwyr hefyd yn gorymdeithio yn erbyn Rafael Correa ym mhrifddinas Ecwador, Quito.
Ymysg eu prif ofynion yw stopio deddfwriaeth a fyddai’n fyddai’n caniatáu i Rafael Correa gael ei ailethol am gyfnod amhenodol.
Mae arweinwyr y protestiadau wedi dweud fod 105 o’r protestwyr wedi cael eu harestio a 35 wedi’u hanafu, tra bod yr awdurdodau wedi dweud fod 100 o heddweision wedi cael eu brifo.