Julian Bond
Mae ymgyrchydd hawliau sifil a chyn-gadeirydd y corff dylanwadol, National Association for the Advancement of Coloured People (NAACP), Julian Bond, wedi marw yn 75 oed.

Bu farw Julian Bond ddydd Sadwrn (Awst 15) yn ei gartref yn Fort Walton Beach, Fflorida.

Dywedodd ei wraig, Pamela Horowitz wrth y wasg yn yr Unol Daleithiau fod ganddo broblemau cylchrediad y gwaed, ond nad oedd neb yn gwybod eto beth achosodd ei farwolaeth.

Mewn teyrnged i’w gŵr dywedodd Pamela Horowitz nad oedd “byth wedi rhoi’r gorau i anelu at y nod” sef cydraddoldeb i bawb.

Aeth Pamela Horowitz ymlaen i ddweud bod ei gwr wedi cadw ei “synnwyr digrifwch” trwy holl ymdrechion y mudiad hawliau sifil. Ychwanegodd bod ei waith i helpu gwella bywydau Americanwyr croenddu, wedi ei helpu i frwydro yn erbyn ei broblemau iechyd am nifer o flynyddoedd.

Arwr i Barrack Obama

Dechreuodd Julian Bond ei yrfa fel ymgyrchydd hawliau sifil tra’n fyfyriwr gan ddechrau mudiad protest. Yn yr 1960au ymgyrchodd yn erbyn rhyfel yr Unol Daleithiau yn Fietnam.

Yn ystod ei fywyd bu’n wleidydd yn Nhalaith Georgia ac yn Athro yn Brifysgol Virginia.

Mewn datganiad disgrifiodd yr Arlywydd, Barrack Obama Julian Bond fel “arwr a ffrind” sydd wedi “gweddnewid yr Unol Daleithiau er gwell.”