Llys Ynadon Dolgellau - un o'r safleoedd dan fygythiad
Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi cyhoeddi map ar-lein er mwyn dangos sut y byddai cynlluniau i gau deg o lysoedd yng Nghymru yn effeithio ar y bobol sy’n defnyddio’r canolfannau hynny.
Ar hyn o bryd, mae llywodraeth Prydain yn cynnal ymgynghoriad ar y cynllun i gau nifer o lysoedd a thribiwnlysoedd ledled Cymru a Lloegr. Mae dyfodol 91 o ganolfannau yn y fantol yn y ddwy wlad.
Er bod Gweinidog y Llysoedd, Shailesh Vara, yn mynnu y byddai modd i bobol gyrraedd llys o fewn awr yn y car ar ôl cau’r canolfannau hyn, mae Cymdeithas y Gyfraith yn dadlau mai nid mewn ceir, ond ar drafnidiaeth gyhoeddus, y mae mwyafrif defnyddwyr yn cyrraedd llys.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Hydref 8.
Dan fygythiad
Llysoedd Barn Aberhonddu
Llysoedd Barn Pen-y-bont ar Ogwr
Canolfan Gwrandawiadau Sifil, Teuluol ac Ewyllysiau Caerfyrddin
Llysoedd Barn Caerfyrddin
Llys y Goron a Llys Ynadon Dolgellau
Llys Ynadon Caergybi
Llys Sifil a Theuluol Llangefni
Llys Sifil a Theuluol Nedd Port Talbot
Llys Ynadon Pontypridd
Llys Ynadon Prestatyn
Tribiwnlys a Chanolfan Gwrandawiadau Wrecsam
Map
Mae’r map, yn Saesneg yn unig, i’w weld ar wefan Cymdeithas y Gyfraith yn fan hyn.