Mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans wedi lansio ymgynghoriad i benderfynu a ddylid newid y drefn o gynnig iawndal i ffermwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y diciâu.

Yn ôl Rebecca Evans, mae angen system sy’n annog ffermwyr i chwarae rhan yn y broses o geisio lleihau nifer yr achosion o’r diciâu mewn gwartheg.

Byddai’r cynlluniau arfaethedig yn galluogi Llywodraeth Cymru i gosbi unrhyw ffermwr sy’n cyfrannu at y broses o ledaenu’r diciâu drwy ddefnyddio dulliau ffermio anniogel, a chuddio neu wrthod profi gwartheg.

Wrth gyhoeddi’r ymgynghoriad, cyhoeddodd Rebecca Evans fod y ffenest ar gyfer gwneud cais am grant o hyd at £2,500 i brynu offer i arddangos hanes meddygol gwartheg wedi cael ei ymestyn tan ddiwedd y flwyddyn.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Dachwedd 6.