Mae beth bynnag 40 o fewnfudwyr wedi marw, a 300 arall wedi cael eu hachub o’r Môr Canoldir i’r gogledd o Libya.

Yn ôl adroddiadau gan lynges yr Eidal, mae’r gwaith achub yn dal i fynd rhagddo.

Mae sianel RaiNews24 TV, sy’n gohebu o un o ganolfannau achub y llynges yn Rhufain, yn dweud fod cyrff y meirwon wedi’u canfod yn howld y cwch llawn-dop oedd yn berchen i smyglwyr pobol.