Mae dynes 22 oed wedi cael ei chyhuddo o lofruddio dyn mewn parc carafanau.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Stud Farm Park yn Morecambe, Swydd Gaerhirfryn, am 12.15yb ddydd Gwener, Awst 14, yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi’i drywanu.

Fe gafodd Damon Searson, 23, ei gludo i’r ysbyty yn Lancaster gydag anaf i’w frest ond bu farw beth amser yn ddiweddarach.

Mae Terri-Marie Palmer, o Heysham yn Swydd Gaerhirfryn, wedi’i chyhuddo o lofruddiaeth.