Mae ffrwydriadau a thanau newydd wedi siglo dinas borthladd Tianjin yn China, a hynny wrth i’r awdurdodau ddechrau’r gwaith o glirio ac achub wedi’r ffrwydriadau cynta’ yr wythnos hon.

Yn y cyfamser, mae teuluoedd ymladdwyr tân sydd ar goll yn y danchwa, wedi mynd ar y tonfeddi er mwyn mynnu gwybodaeth am eu hanwyliaid.

Mae yna 85 o bobol eisoes wedi marw yn y tân a gynheuwyd ddydd Mercher – ac mae’r nifer hwnnw’n cynnwys 21 o ymladdwyr tân, y nifer mwya’ i gael eu lladd mewn un digwyddiad mewn dros 60 mlynedd.

Mae nifer o ymladdwyr yn parhau ar goll, ac mae 720 o bobol wedi derbyn triniaeth am anafiadau yn y gyfres o ffrwydriadau a ddechreuodd gyda thân mewn cynhwysydd cario nwyddau ar long a oedd wedi’i gadw mewn warws yn llawn deunydd peryglus.