Dyn 39 mlwydd oedd ydi’r trydydd i gael ei gyhuddo mewn cysylltiad ag achos o saethu yn nwyrain Lloegr.

Fe gafodd Heddlu Suffolk eu galw am 6.45yp ddydd Mawrth, Awst 4, yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi’i saethu yn ei stumog yn Bury St Edmunds. Fe dderbyniodd y dioddefwr, sy’n ei 30au, driniaeth yn yr ysbyty.

Fe gafodd Andrew Seaton, o Dorchester yn swydd Dorset, ei arestio a’i holi am y tro cynta’ ddydd Sadwrn, Awst 8, cyn cae ei ryddhau ar fechnïaeth, ond fe gafodd ei arestio eto ddoe. Mae wedi’i gyhuddo o gynllwynio i lofruddio.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron ynadon yn Ipswich.

Mae dau ddyn arall wedi’u hartestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae pedwar arall eto wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tan y mae disgwyl iddyn nhw ddychwelyd at yr heddlu yn yr hydref.

Fe ymddangosodd Frank Warren, 51, o Dorchester, gerbron ynados Ipswich ddoe (dydd Gwener) ar gyhuddiad o gynllwynio i lofruddio. Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Ipswich ar Awst 25.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gyhuddwyd Simon Webber, 31. o Bridgwater yng Ngwlad yr Haf, o gynllwynio i lofruddio. Fe gafodd yntau ei gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys yGoron Ipswich ar Awst 25.