Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i 17 o bobol gael eu saethu’n farw ym Mrasil o fewn ychydig oriau.

Cafodd o leiaf 10 ohonyn nhw eu lladd mewn bar ar ôl i ddynion arfog ddod allan o gar a dechrau saethu atyn nhw.

Saethwyd dyn arall yn farw ger siop hufen iâ gyfagos, tra bod un arall wedi’i saethu gan ddau ddyn arfog ar gefn beic modur.

Roedd achosion eraill mewn pum ardal o’r un ddinas.

Dywedodd tystion bod y dynion arfog yn gofyn i unigolion a oedd ganddyn nhw hanes o droseddu. Cafodd y rheiny a ddywedodd fod ganddyn nhw gofnod troseddol eu saethu’n farw.

Digwyddodd yr holl achosion yn ardaloedd Osasco a Barueri.

Dywedodd Maer Osasco, Jorge Lapas y gallai’r ymosodiadau fod yn ymdrechion i dalu’r pwyth am ladd dau blismon yn ddiweddar.