Mae’r dyn fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng fan a chraen ar ffordd A48 yn Sir Gaerfyrddin y bore yma wedi cael ei enwi.
Roedd Adam Carr yn gyrru’r fan pan darodd yn erbyn y craen rhwng Porthyrhyd a Foelgastell am oddeutu 5.45 y bore yma.
Roedd yn enedigol o St Thomas yn Abertawe, ond yn byw yng Nghaerfyrddin.
Mae ei deulu’n rhedeg tafarn yr Halfway Inn ym Mon-y-maen.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion. Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.