Alec Warburton
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi lluniau camera cylch-cyfyng fel rhan o’u hymchwiliad i ddiflaniad dyn 59 oed o Abertawe.

Dydy Alec Warburton ddim wedi cael ei weld ers Gorffennaf 31, ac mae’r heddlu’n amau ei fod wedi cael ei lofruddio.

Maen nhw’n parhau i apelio am wybodaeth am ei gyn-denant, David Ellis, 40.

Mae’r delweddau newydd yn dangos Alec Warburton yn siopa yn Abertawe ddiwrnod cyn iddo gael ei weld ddiwethaf.

Mae rhagor o wybodaeth wedi cael ei datgelu gan yr heddlu am symudiadau ei gar yn y dyddiau ar ôl Gorffennaf 31.

Dywed yr heddlu fod ei gar Peugeot 205 gwyrdd wedi cael ei yrru i Gaersws a Betws-y-Coed y diwrnod canlynol, a’i fod wedi dychwelyd i Abertawe ar Awst 2.

Cafodd y car ei weld ddiwethaf ym maes parcio Canolfan Ddinesig Abertawe ar Awst 4, a dywed yr heddlu nad oes lle i gredu bod y car wedi gadael y ddinas yn ystod y 10 diwrnod diwethaf.

Mae’r heddlu wedi apelio o’r newydd am wybodaeth am David Ellis, ac maen nhw’n dweud ei fod yn allweddol i’r achos.

Maen nhw hefyd wedi apelio am dystion posib yn ardaloedd Caersws a Betws-y-Coed.

Mae archwiliad fforensig wedi cael ei gynnal yng nghartref Alec Warburton yn Heol Vivian, Sgeti yn Abertawe, ac mae nifer o blismyn Heddlu’r De wedi teithio i’r gogledd i gynnal ymchwiliad yno.