Mae Cyngor ar Bopeth yn rhybuddio pobl y gallen nhw wynebu biliau anferthol am ddefnyddio’r rhyngrwyd ar eu ffonau symudol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd yr elusen bod ffioedd uchel am wasanaethau a defnyddio data crwydro yn gallu golygu problemau ariannol difrifol i rai pobl.
Gobaith Cyngor ar Bopeth yw y gallan nhw annog y llywodraeth i weithio gyda darparwyr er mwyn dod i gytundeb i roi fwy o rybuddion i ddefnyddwyr am faint o ddata mae eu ffôn yn ddefnyddio, a hynny er mwyn osgoi derbyn bil mawr.
Anfon rhybudd
Dywedodd Gillian Guy, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth: “Mae defnyddio’r rhyngrwyd ar eich ffôn symudol dramor yn gallu costio mwy na’r gwyliau ei hun.
“Byddai penderfynu pris gwirfoddol yn helpu i ddiogelu cwsmeriaid a gallai cwmnïau wneud mwy drwy roi mwy o rybuddion i gwsmeriaid os yw eu biliau yn dechrau codi.”
O fewn gwledydd yr Undeb Ewropeaidd mae lawrlwytho megabeit o ddata crwydro wedi ei gyfyngu i 17c ond gall hyn gostio £12.50 tu allan i’r Undeb.
Yn ôl Cyngor ar Bopeth mae lawrlwytho hanner awr o Eastenders yn costio £1,360 yn Nhwrci o’i gymharu ag uchafswm o £32 y tu fewn i’r Undeb Ewropeaidd.