Byddai’r Blaid Lafur yn cyflwyno “llythyr o ymddiswyddiad” i bobol gwledydd Prydain pe bai’n ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd, yn ôl un arall o’r ymgeiswyr, Liz Kendall.
Mae Kendall yn mynnu na fyddai’r Blaid Lafur yn blaid lywodraethol gredadwy pe bai’r ymgeisydd asgell chwith yn olynu Ed Miliband.
Dywedodd Kendall fod marc cwestiwn o hyd am ymrwymiad Corbyn i gadw Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae hi wedi galw ar aelodau’r blaid i gefnogi Andy Burnham neu Yvette Cooper fel ail neu drydydd dewis er mwyn atal Jeremy Corbyn rhag ennill ar Fedi 12.
Ar hyn o bryd, mae’r polau piniwn yn awgrymu y gallai Liz Kendall orffen yn bedwerydd yn y ras.
Dywedodd hi wrth raglen Today BBC Radio 4: “Dydy e ddim yn cynnig unrhyw beth newydd, dydy ei raglen e ddim yn newydd, mae e union yr un fath ag oedd e yn y 1980au ac fe gawn ni’r un canlyniad.
“Dw i ddim am weld Llafur yn cynnig llythyr o ymddiswyddiad i bobol Prydain fel plaid lywodraethu ddifrifol.
“Mae miliynau o bobol yn dibynnu arnon ni i gynnig rhywbeth amgen a dyna fydda i’n ei wneud dros yr wythnosau i ddod.”
Farage – Corbyn “yn newyddion da iawn”
Mae pryderon Liz Kendall am ddiffyg ymrwymiad Corbyn i fater yr Undeb Ewropeaidd wedi’u hategu gan arweinydd UKIP, Nigel Farage.
Dywedodd Farage mewn erthygl i Breitbart: “Tra nad oes gen i unrhyw ffydd o gwbl yn noethineb ei economeg, mae ei fuddugoliaeth yn newyddion da iawn i’r ymgyrch Na yn y refferendwm Ewropeaidd sydd i ddod.
“O dan Corbyn, fe fydd dadl am TTIP, am y ffordd y mae Gwlad Groeg wedi cael ei thrin, ac am rôl seneddau cenedlaethol a democratiaeth.”
Ychwanegodd y byddai buddugoliaeth i Corbyn yn golygu tranc y Blaid Werdd.
Mae disgwyl i Corbyn lansio rhaglen 10 pwynt yn Glasgow.
Mae’r pryderon am niferoedd uchel o aelodau newydd sy’n ymuno â’r Blaid Lafur er mwyn cefnogi Corbyn yn parhau.