Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog gyrwyr i osgoi rhan o’r A55 oherwydd tagfeydd yn dilyn damwain rhwng pum car.

Dywedodd yr heddlu nad yw’r ddamwain ger Helygain yn Sir Fflint  yn “ddifrifol”  ond ei fod yn achosi tagfeydd rhwng cyffordd 32 a 33 i rai sy’n teithio i’r dwyrain.

Digwyddodd y ddamwain o gwmpas 12.35pm.

Hefyd mae’r heddlu yn rhybuddio gyrwyr am dywydd garw yno.