Mae pobl yn nhref Blaenau Ffestiniog mewn sioc wedi iddyn nhw weld y cyn-gynghorydd ar flaen papur newydd The Sun yn datgan ei fwriad i deithio i’r Swistir er mwyn marw mewn clinig Dignitas yno heddiw.
Roedd Bobl Cole, 68, yn dioddef o ganser ar ei ysgyfaint o’r enw Mesothelioma.
Mae golwg360 wedi body n siarad gyda rhai o drigolion yr ardal sy’n ei adnabod.
“Dipyn o ergyd”
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies : “Roedd o yn weithgar iawn yn y gymuned fel cynghorydd tref ac fel cadeirydd grŵp strategaeth adfywio’r dref. Felly mae hi’n dipyn o ergyd clywed beth sy’n digwydd. Roedd o ag Ann [ei wraig] â thrawstoriad eang iawn o ffrindiau. Roedd Bob yn hoff o fynydda a physgota. Pobl awyr agored oedden nhw. Iach eu ffordd o fyw, sy’n gwneud hyn yn fwy o sioc.”
Mae hanes Bob Cole yn teithio i’r Swistir wedi ailgodi’r drafodaeth ynghylch yr hawl i roi terfyn ar fywyd.
“Mesothelioma oedd Bob yn dioddef, a does yna ddim triniaeth i wella hynny, er bod ffyrdd o gadw’r corff yn fyw,” meddai Mandy Williams-Davies.
“Dw i’n deall ei resymau [dros roi terfyn ar ei fywyd], doedd ganddo ddim ansawdd bywyd ac yn byw’n gaeth ac mewn poen – anodd iawn i berson llawn bywyd fel Bob.
“Pan mae ansawdd bywyd yn diflannu gall yr ysbryd dorri, felly oherwydd eu ffordd nhw o fyw, roedd y penderfyniad i fynd i’r Swistir iddyn nhw, yr un cywir.
“Mae’n agor y ddadl ac ma’ shwr mai dyma oedd ei fwriad. Roedd o’n hoff o ddadlau.”
Roedd yr arlunydd Howard Bowcott o Benrhyndeudraeth yn ffrindiau gyda Bob Cole ers 35 o flynyddoedd, ac meddai: “Roedd y ddau ohonom yn weithgar yn CND [Ymgyrch Diarfogi Niwclear] yn yr 1980au cynnar a dyna sut daethon ni yn ffrindiau. Dw i’n deall o ble daeth ei benderfyniad.
“Mae’r boen yn annioddefol. Dw i’n meddwl y dylai pobl gael yr hawl i ddewis marw os yw ansawdd eu bywyd ddim gwerth byw. Roedd Bob yn gallu fforddio teithio i’r Swistir, ond dydi pawb ddim, felly mae wedi gwneud hyn er mwyn tynnu sylw i’r achos.”
“Arwr”
Mae Jim Buckley wedi bod yn ffrindiau gyda Bob ac Ann Cole ers 30 mlynedd ac wedi mynydda yn yr Alpau gydag ef.
Daeth y ddau yn ffrindiau drwy gydweithio ar achos gwleidyddol ac ymgyrchu yn erbyn caniatáu chwarel newydd rhag cael ei chloddio ym mynyddoedd y Moelwyn.
Meddai Jim Buckley: “Mae o’n arwr, dyn dewr iawn a dw i wedi syfrdanu ei fod wedi gallu cael y fath gyhoeddusrwydd i’w benderfyniad, sydd wrth gwrs yn anghyfreithlon yn y wlad yma.
“Mae’r hawl i farw yn gwestiwn sylfaenol a myth yw’r honiad bod cyffuriau yn gallu rheoli’r boen. Roedd yn ddewr iawn i allu dioddef poen ei salwch ac i wneud y penderfyniad yma.”
Bydd yr hawl i farw yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin yn y sesiwn nesaf ac mae Jim Buckley yn dweud y dylai pobl gysylltu â’u AS i drafod yr achos ac mae ef eisoes wedi ysgrifennu at ei AS lleol ar y mater.
“Mae’n bwysig iawn i ni wybod beth yw barn ein ASau ar y pwnc yma,” ychwanegodd Jim Buckley.