Yr Arglwydd Janner
Mae barnwr wedi rhybuddio y gallai’r Arglwydd Janner gael ei arestio er mwyn ei orfodi i ymddangos gerbron llys i wynebu cyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol, ac yn dilyn y bygythiad hwnnw mae disgwyl iddo fod yn y llys y prynhawn yma.

Felly mae disgwyl i gyn-Aelod Seneddol Caerlŷr, sy’n hanu o Gaerdydd, fynd gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw.

Mae’n wynebu 22 o gyhuddiadau sy’n amrywio o’r 1960au i’r 1980au.

Mae ei dîm cyfreithiol yn mynnu nad yw’n ddigon iach i wynebu gwrandawiad llys oherwydd ei fod yn dioddef o ddementia.

Penderfynodd yr Uchel Lys ddoe fod rhaid iddo ymddangos mewn rhyw fodd gerbron y llys – ac roedd ymddangos trwy gyswllt fideo yn un o’r opsiynau.

Dywedodd y barnwr Emma Arbuthnot wrth gyfreithwyr Janner y bore yma: “Hyd yn oed os oes rhaid i fi drefnu ei fod yn cael ei arestio, rwy’n mynd i ddatrys y mater hwn heddiw.

“Rwy’n eich rhybuddio wrth i amser fynd ymlaen y byddaf yn troi at yr erlynwyr a dweud ‘gadewch i ni gael gwarant i’w arestio fe. Gadewch i ni beidio gwastraffu amser.”

Ond ychwanegodd fod rhaid ymddwyn yn ddynol tuag at y diffynnydd.

Roedd cyfreithwyr Janner wedi gofyn am amser i gyflwyno cais am adolygiad barnwrol o’r penderfyniad i’w orfodi i’r llys, ond cafodd y cais ei wrthod.

Oherwydd difrifoldeb y cyhuddiadau yn ei erbyn, rhaid i’r achos gael ei gynnal yn Llys y Goron, sy’n golygu bod rhaid i Janner ymddangos gerbron ynadon yn y lle cyntaf.