Mae ffermwyr wedi croesawu ymrwymiad archfarchnad Asda i dalu 28 ceiniog y litr am laeth.

Dywed NFU Cymru fod y penderfyniad yn “gam sylweddol” ymlaen wrth gydnabod gwerth cynnyrch llaeth Cymru a gwledydd Prydain.

Fe fydd y pris newydd yn cael ei gyflwyno ddydd Llun. 23 ceiniog sy’n cael ei dalu ar hyn o bryd.

Bydd y pris o 28 ceiniog yn cael ei drosglwyddo i’r prosesydd Arla, fydd yn trosglwyddo’r arian yn ei dro i gyflenwyr Cymreig.

Wrth ymateb i gyhoeddiad Asda, dywedodd cadeirydd bwrdd llaeth NFU Cymru, Aled Jones: “Mae’r Undeb wedi bod yn lobïo Asda yn ddiflino i gydnabod helynt y diwydiant llaeth felly rydym yn falch fod Asda wedi gweithredu i gefnogi ffermwyr yn eu hangen.

“Mae Asda wedi’i gwneud yn amlwg mai diben yr ymrwymiad yw cefnogi diwydiant llaeth y DU ar adeg o argyfwng.

“Mae hi nawr yn bwysig fod Arla yn sicrhau bod hyn yn cael ei gyflwyno i’n ffermwyr llaeth ar lawr gwlad ar unwaith.

“Mae’r penderfyniad hwn yn cydnabod fod agen pris teg ar ein ffermwyr llaeth fel bod cwsmeriaid yn gallu sicrhau fod ganddyn nhw fynediad i gynnyrch llaeth Cymreig a Phrydeinig nawr ac yn y dyfodol.”