Bydd y comedïwr, actor ac awdur byd enwog Steve Coogan yn perfformio yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion eleni.
Dyma fydd ymddangosiad prin gan seren I’m Alan Partridge ar gyfer sgwrs gyda’r newyddiadurwr Amy Raphael am ei yrfa yn y Piazza ar brynhawn Sadwrn yr ŵyl.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi y bydd sgwrs gyda’r cerddor a DJ Mark Ronson a chyfarwyddwr ffilm newydd am y gantores Amy Winehouse.
Yn ogystal, bydd y canwr James Morrison yn agor prif lwyfan yr ŵyl ar y Sul.