Edward Heath
Doedd gan Syr Edward Heath ddim diddordeb mewn rhyw yn ôl yr Arglwydd Robert Armstrong oedd yn gweithio’n agos gyda’r Tori pan oedd yn Brif Weinidog.

Erbyn hyn mae yna saith o Heddluoedd yn ymchwilio i honiadau bod Edward Heath, a fu farw yn 2005 yn 89 oed, wedi cam-drin plant yn rhywiol.

Roedd Robert Armstrong yn Brif Ysgrifennydd Preifat i Heath yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog o 1970 i 1974.

Dywedodd Robert Armstrong wrth y BBC nad oedd Edward Heath wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn rhyw o gwbl.

“Roeddwn yn ei adnabod am 35 o flynyddoedd. Fe weithiais yn agos iawn ag ef tra’n Brif Weinidog ac yna roeddem yn ffrindiau agos iawn am weddill ei oes.

“Fel arfer rydych yn gallu dod i wybod rhywfaint am ddiddordebau rhywiol pobl, os ydych yn ffrindiau neu’n cyd-weithio’n agos. Rydw i’n credu ei fod un un o’r bobl yma sy’n hollol anrhywiol.

“Mae yna bobl sydd ddim efo diddordeb mewn rhyw ac rwy’n credu ei fod yn un ohonyn nhw.”

“Dyn swil”

Aeth Robert Armstrong ymlaen i esbonio bod Edward Heath yn cael ei warchod gan blismyn o Sgotland Yard tra’n ei gartref yng Nghaersallog ac nad oedd yn gyrru cerbyd. Roedd hyn yn gwneud iddo amau’r honiadau hyd yn oed yn fwy.

“Mae’n ymddangos i mi yn annhebygol iawn y gallai fod wedi dianc i wneud y math o beth sy’n cael ei honni,” meddai Robert Armstrong.

Mae ei sylwadau yn dilyn honiadau newydd gan Myra Ling-Ling Forde, 67. Roedd hi’n rhedeg puteindy yng Nghaersallog.  Yn ôl Myra Ling-Ling Forde, dyn “hoyw swil” oedd Edward Heath a dim pedoffeil, ac roedd hi’n trefnu iddo gyfarfod dynion eraill.