Kirsty Williams yw Arweinydd Lib Dems Cymru
 Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi sicrhau buddugoliaeth brin mewn is-etholiad ym Mhowys, gan drechu’r Ceidwadwyr.

Y Democrat Rhyddfrydol James Gibson-Watt ddaeth i’r brig wrth frwydro am sedd ar y Cyngor Sir yn ardal Y Clas-ar-Wy.

Roedd y sedd yn arfer bod yn nwylo’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, Chris Davies.

Enillodd Gibson-Watt 44% o’r pleidleisiau – y tro cyntaf i Ddemocrat Rhyddfrydol ymgeisio yn y ward.

Yn dilyn ei fuddugoliaeth, dywedodd James Gibson-Watt: “Rwyf wrth fy modd yn cael cynrychioli cymuned dw i wedi byw ynddi ar hyd fy oes unwaith eto, ac fe wnaf fy ngorau i wasanaethu pentrefi ward Y Clas-ar-Wy hyd eithaf fy ngallu.

“Byddaf yn brwydro’n galed, ynghyd â’r ACau Kirsty Williams a William Powell a’r gymuned leol i achub Ysgol Uwchradd Gwernyfed rhag cael ei chau gan Gyngor Powys – rhywbeth sy’n hanfodol i’n cymuned leol.”

Mae Kirsty Williams wedi ei longyfarch, gan ddweud y bydd yn “gweithio’n ddi-flino dros ei gymuned leol”.

Ychwanegodd fod y canlyniad yn dangos bod “yr angen am lais rhyddfrydol ar hyd a lled Cymru’n fwy nag erioed”.

Y canlyniadau’n llawn:

Democratiaid Rhyddfrydol – 457 (44%)

Ceidwadwyr: 415 (40%)

Annibynnol: 106 (10%)

Y Blaid Werdd: 52 (5%)