Glyn Davies
“Ffantasi” yw disgwyl i lefelau cyllido S4C ddychwelyd i’r hyn oedden nhw yn 2010, yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn.

Mae’r rhai sy’n gofyn am hynny, yn ôl Glyn Davies, yn cynnal “ymgyrch afrealistig sy’n tanseilio ymdrechion gorau’r rheiny ohonom sy’n cefnogi’r ddadl dros sianel deledu Gymraeg wedi’i hariannu’n dda”, a bod hynny’n “siomedig”.

Ar ei flog A View from Rural Wales, mae’r Tori yn mynnu ei fod yn “cydymdeimlo” â’r egwyddor craidd o gynnal S4C.

Yn ddiweddar mae wedi derbyn sawl neges e-bost yn galw am gynyddu lefelau cyllido S4C i’r hyn oedden nhw cyn cychwyn y cwtogi yn 2010, ac hefyd yn gofyn bod y Llywodraeth yn dychwelyd i’r drefn o gynyddu’r cyllid hwnnw yn unol â chwyddiant.

Ar hyn o bryd, mae S4C yn derbyn £82 miliwn y flwyddyn, sydd i lawr o’r £100 miliwn roedden nhw’n dderbyn yn 2010.

Yn ôl Glyn Davies roedd cwtogi cyllideb S4C yn 2010 a diddymu’r cyswllt â chwyddiant yn “anochel” am fod gan Lywodraeth Prydain ar y pryd “gwpwrdd gwag”.

Mae Glyn Davies o’r farn na ddylid cwtogi cyllideb S4C ymhellach, er bod yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale wedi dweud ei bod yn rhesymol disgwyl i’r Sianel wynebu’r un gostyngiad yn ei chyllideb â’r BBC.

Yn ôl Glyn Davies “ffantasi” yw disgwyl i lefelau cyllido ddychwelyd i’r hyn oedden nhw yn 2010.

‘Cynyddwch y buddsoddiad mewn darlledu Cymraeg’ – Cymdeithas yr Iaith

Dywedodd Aled Powell, Cadeirydd grwp digidol Cymdeithas yr Iaith:

“Mae dwsinau o etholwyr Maldwyn wedi cefnogi ein safiad ni i ddiogelu S4C; ac rydyn ni’n disgwyl i Aelodau Seneddol ymateb i lais eu hetholwyr. Rydyn ni wrthi’n trefnu cyfarfod gyda Glyn i drafod y materion hyn, ond bydd e’n cofio mai’r dirwasgiad oedd y rheswm a gafodd ei roi dros y toriadau anferthol i S4C. Bydd e hefyd yn cofio’r addewid cyn etholiad 2010 gan ei blaid na fyddai toriadau i’r sianel.

“Rydyn ni wedi amlinellu cynigion manwl ynghylch sut y gallai’r Llywodraeth ddefnyddio treth newydd ar gwmnïau sy’n gwneud llawer o elw – megis Sky a Google – i gynyddu’r buddsoddiad i mewn i ddarlledu Cymraeg. Mae’n fater i’r Llywodraeth benderfynu a ydyn nhw am amddifadu pobl Cymru o wasanaethau Cymraeg a fydd yn cryfhau defnydd a chyflwr y Gymraeg, neu amddiffyn cwmnïau mawrion fel Sky sydd wedi torri yn ôl ar yr ychydig o sylwebaeth Gymraeg oedd ganddyn nhw, a bellach ddim yn cynnig dim gwasanaethau nac unrhyw gynrychiolaeth o’u cynulleidfa Cymraeg.

“Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd S4C i’r Gymraeg a diwylliannau Cymru. Ers 2010, daw cyfran helaeth o’r gyllideb sy’n weddill drwy ffi’r drwydded – trefniant sy’n bygwth annibyniaeth y sianel – gan fod y Llywodraeth wedi lleihau ei chyfraniad gan 93%. Mae cyllideb y sianel wedi ei thorri gan oddeutu 40%, gydag effaith sylweddol ar allu S4C i ddarparu gwasanaeth teledu cynhwysfawr o safon.

“Mae’n rhaid i Aelodau Seneddol sylweddoli bod S4C wedi cael ei sefydlu yn dilyn ymgyrch dorfol hir, a bod nifer o bobl wedi aberthu eu rhyddid er mwyn ei sefydlu. Nid sianel gyffredin mohoni, ond yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd.

“Mae’r ffordd mae’r Llywodraeth wedi dod i’r penderfyniadau ynghylch y sianel yn gwbl anfaddeuol, ac yn gwbl annemocrataidd gan nad ydyn nhw wedi ymgynghori ag S4C na phobl Cymru yn eu cylch. Rydyn ni’n credu bod y broses hon yn cryfhau’r achos dros fformiwla ariannu mewn statud fel bod sicrwydd clir ynglŷn â sefyllfa ariannol y sianel. Mae’n hollbwysig bod y Llywodraeth yn sicrhau annibyniaeth ariannol, strategol a golygyddol i S4C.”