Mae un person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a chraen yn Sir Gaerfyrddin y bore yma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 5.45 yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd A48 rhwng Porthyrhyd a Foelgastell.

Bu farw gyrrwr y fan o ganlyniad i’w anafiadau.

Mae’r ffordd wedi’i chau i’r ddau gyfeiriad wrth i’r heddlu ymchwilio i’r gwrthdrawiad, ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio am y tro.

Mae teulu’r gyrrwr wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.