Yr Arglwydd Janner
Mae disgwyl i’r Arglwydd Greville Janner ymddangos yn Llys Ynadon San Steffan yn Llundain heddiw i wynebu cyhuddiadau cam-drin plant, er ei fod yn diodde’ o ddementia.
Collodd y cyn-AS Llafur 87 mlwydd oed y ddadl i beidio ymddangos wedi i farnwyr ddweud bod natur yr achos o fudd cyhoeddus a bod angen i achosion llys cael eu cynnal yn gyhoeddus.
Roedd y barnwyr yn dweud bod hyn yn bwysicach nag unrhyw ofid sy’n cael ei achosi i Greville Janner.
Mae ei gyfreithwyr am apelio’r dyfarniad.
Mae Greville Janner wedi ei gyhuddo o 22 achos o gam-drin plant dros gyfnod o 20 mlynedd o’r 1960au i’r 1980au.
Roedd cyfreithwyr dros Greville Jenner wedi rhoi tystiolaeth gerbron y llys ei fod yn rhy wael i ymddangos yn y llys ac y byddai gorfodi’r gwleidydd i fod yno yn groes i’w hawliau dynol.