Wedi'r ddamwain yn Glasgow (PA)
Mae ymgynghorydd meddygol gyda chanolfan drwyddedu’r DVLA yn Abertawe wedi cydnabod bod modd cam-ddefnyddio’r system o gofrestru am drwydded gyrru lorris.
Mae papurau newydd yr Alban wedi tynnu sylw at dystiolaeth Dr Gareth Parry yn y cwest i farwolaeth chwech o bobol wedi damwain lorri yn Glasgow y llynedd.
Roedd y gyrrwr, Harry Clarke, wedi cuddio’r ffaith fod ganddo broblemau meddygol wrth wneud cais am drwydded ar gyfer cerbyd trwm.
‘Cam-ddefnydd’
Mae’n debyg nad oes trefn ar gael i’r awdurdodau djecio a yw tystiolaeth am gyflwr iechyd gyrrwr yn gywir ai peidio.
Yn yr achos, fe gytunodd Dr Gareth Parry gyda chwestiwn cyfreithiwr un o’r teuluoedd fod modd “camddefnyddio” y system.
Ac fe gytunodd gyda chwestiwn arall yn awgrymu y gallai hynny olygu temtasiwn fawr i yrrwyr cerbydau trwm.