Alexis Tsipras
Fe fu’n rhaid i Brif Weinidog Gwlad Groeg, Alexis Tsipras ddibynnu ar bleidleisiau’r  wrthblaid er mwyn sicrhau bod trydydd pecyn cymorth ariannol yn cael ei gymeradwyo gan senedd y wlad.

Mae’n golygu rhagor o doriadau gwario a phreifateiddio.

Fe ddaeth  y bleidlais dyngedfennol yn oriau mânn y bore, yn dilyn sesiwn hir a dadlau chwerw yn y senedd yn Athen.

‘Ildio’

Mae Alexis Tsipras yn cael ei feirniadu’n hallt gan rai o wleidyddion ei blaid ei hun, Syriza, am “ildio” i ofynion y benthycwyr.

Roedd rhaid i’r wlad dderbyn y cyfyngiadau ariannol er mwyn derbyn y pecyn sydd gwerth £59 biliwn dros dair blynedd.

Roedd angen i’r senedd gytuno i’r pecyn cymorth cyn Awst 20 pan fydd disgwyl i’r llywodraeth dalu £21biliwn yn ôl i Fanc Canolog Ewrop.