Rhodri Morgan
Cyn-Brif Weinidog Cymru yw’r diweddara’ i feirniadu Jeremy Corbyn, yr ymgeisydd sy’n arwain y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Fe wrthododd Rhodri Morgan honiad fod polisïau’r aelod seneddol asgell chwith yn debyg i’r “dŵr coch clir” yr oedd ef wedi’i osod rhyngddo a Tony Blair a Llafur Newydd.
“Dw i ddim yn yr un lle o gwbl,” meddai Rhodri Morgan wrth Radio Wales, gan gadarnhau ei fod yn bwriadu cefnogi Yvette Cooper yn y bleidlais.
“Mae yna fwlch anferth rhwyng Corbyniaeth a Blairiaeth a’r hyn geisiais i ei wneud oedd cau’r bwlch yna gyda Llafuriaeth glasurol.”
‘Chwith caled’
Roedd Jeremy Corbyn, meddai Rhodri Morgan, yn cynnig polisïau “chwith caled” ac yn ceisio perswadio pobol oedd yn gwrthod Blair a Llafur Newydd y dylen nhw bleidleisio iddo ef.
Ond, ar yr un pryd, roedd yn hyderus na fyddai’r blaid yn rhannu – fel y gwnaeth hi adeg yr SDP yn 1981 – pe bai Jeremy Corbyn yn ennill.
Mae ymgyrch y sefydliad Llafur i atal Jeremy Corbyn yn parhau wrth i’r ffurflenni pleidleisio ddechrau cael eu hanfon at aelodau a chefnogwyr.
Kendall a’r Ceidwadwyr yn ymosod
Mae un o’r ymgeiswyr eraill, Liz Kendall, wedi gofyn i bobol beidio â rhoi cefnogaeth o gwbl i AS Gogledd Islington wrth iddyn nhw osod yr ymgeiswyr mewn rhestr o 1 i 4.
Fe ddywedodd hi y byddai buddugoliaeth i Jeremy Corbyn fel “llythyr ymddiswyddo” gan y Blaid Lafur i bobol gwledydd Prydain.
Ac mae’r Ceidwadwyr wedi ymosod hefyd, gan ddweud y byddai polisïau Jeremy Corbyn yn costio mwy na £2,400 i bob teulu.
Hyd yma, mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn dawel am yr etholiad.
- Fe fydd Jeremy Corbyn yn lansio cynllun polisi deg pwynt yn yr Alban heddiw. Ar ôl beirniadaeth gan Yvette Cooper ddoe, fe ddywedodd ei fod yn canolbwyntio ar bolisïau yn hytrach nag ymosodiadau personol.