Hen lun o'r capel cyn y tan
Mae ymchwiliad wedi dechrau i dân sydd wedi dinistrio eglwys wag yn Llanelli.
Fe fu’n rhaid i 38 o bobol leol dreulio’r nos mewn canolfan hamdden gerllaw wrth i ddiffoddwyr ymladd y tân yn Eglwys Annibynnwyr Park, ar Murray Street yn y dref.
Ar un adeg roedd dros 30 o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd y fflamau.
Dim anafiadau
Mae to’r eglwys wedi cael ei ddinistrio’n llwyr ond doedd y tân ddim wedi lledu i adeiladau eraill a does neb wedi cael ei anafu.
“Roedd yr Eglwys yn wenfflam ac mae wedi cael difrod sylweddol,” meddai Arolygydd James Davies o Heddlu Dyfed Powys.
“Oherwydd pryderon diogelwch roedd rhaid i ni ofyn trigolion cyfagos i adael eu cartrefi a chau’r ardal o gwmpas yr Eglwys am sbel.
Ar hyn o bryd mae diffoddwyr yn dal wrthi’n ceisio sicrhau nad yw’r tân yn ail-gynnau..
- Cafodd yr eglwys Gothig 150 oed ei chau yn 2012.
- Roedd yr achos wedi ei sefydlu yn 1839 gan David Rees ‘Y Cynhyrfwr’
- Fe fu’r bardd Elfen yn weinidog ar yr eglwys.
- Roedd yr adeilad wedi ei restru ar raddfa II