Milwyr peshmerga ger ffiniau Syria (Enno Lenze CCA 2.0)
Fe fydd awdurdodau’r Unol Daleithiau’n ymchwilio i honiadau fod y mudiad milwrol eithafol IS wedi defnyddio arfau cemegol yn Irac.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn eu bod nhw’n ystyried bod yr honiadau’n “ddifrifol iawn” ac fe allai gynyddu’r pwysau am anfon milwyr Americanaidd i’r Dwyrain Canol.
Yn ôl llysgennad yr Unol Daleithiau yn y Cenhedloedd Unedig, fe fyddan nhw’n siarad gyda’r milwyr Cwrdaidd sydd wedi gwneud yr honiadau.
Pe baen nhw’n wir, meddai, fe fydden nhw’n dangos nad ymgyrch filwrol oedd gan IS ond ymosodiadau ar bobol gyffredin.
Yr honiadau
Fe ddaeth yr honiadau ar ôl ymosodiad gan IS yn nhref Makhmour ddydd Mercher.
Yn ôl lluoedd yr Almaen, sy’n hyfforddi milwyr peshmerga’r Cwrdiaid, roedd 60 ohonyn nhw wedi cwyno am broblemau anadlu.
Yr amheuaeth yw fod ‘nwy mwstard’ wedi cael ei ddefnyddio – yr ail dro i gyhuddiadau o’r fath gael eu gwneud yn erbyn IS.