Sylw i'r ffrwydradau yn y Beijing News
Mae ffrwydradau enfawr yn un o ddinasoedd mwyaf China, Tianjn, wedi lladd o leia’ 44 o bobol ac anafu cannoedd.
Yn ôl adroddiadau yn y wlad, mae 32 o bobol ymysg y 300-400 sydd wedi eu cymryd i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol. Dywedodd asiantaeth Newyddion Xinhua bod 12 o’r rheiny a laddwyd yn ddynion tân.
Fe ddigwyddodd y ffrwydradau mewn warws ar gyfer “deunyddiau peryglus” gan chwythu drysau oddi ar adeiladau yn yr ardal a malu ffenestri yn deilchion filltiroedd i ffwrdd.
Fe ddigwyddodd y ffrwydrad cynta’ yn hwyr neithiwr (amser lleol), gydag un arall, mwy pwerus eiliadau’n ddiweddarach.
Dim gwybodaeth am yr achos
Does dim gwybodaeth hyd yma o beth yn union achosodd y ffrwydradau a doedd dim awgrym bod cemegau gwenwynig mawr yn yr awyr.
Dywedodd yr heddlu mai Ruihai Logistics yw perchnogion y warws, cwmni sydd wedi eu cymeradwyo i fod yn gyfrifol am y deunydd.