Thomas Keys - wedi'i ladd yn 2003
Mae tad milwr o  Gymru ymhlith teuluoedd sy’n bygwth dod ag achos cyfreithiol i orfodi Syr John Chilcot i gyhoeddi ei adroddiad ar Ryfel Irac.

Yn ôl papur newydd y Daily Mail, mae o leia 29 o deuluoedd a gollodd berthnasau yn y rhyfel wedi anfon llythyr yn galw am osod dyddiad ar gyfer cyhoeddi.

Os na fydd hynny’n digwydd, maen nhw’n bygwth galw am arolwg barnwrol.

Apêl tad

Ymhlith y teuluoedd, mae Reg Keys, tad yr Is-gorpral Thomas Keys o Lanwuchllyn a gafodd ei ladd yn Irac yn 2003. Mae’n dweud bod yr oedi’n golygu bod ei golled fel “clwyf agored”.

“Rydyn ni eisiau tynnu llinell o dan ryfel Irac er mwyn i ni symud ymlaen,” meddai Reg Keys wrth y papur. “Ond cyn hynny, rhaid i ni wybod beth oedd pwrpas y rhyfel.

“Rydyn ni eisiau gwybod pam fod Blair wedi mynd yn groes i’r Cenhedloedd Unedig a mynd â ni i Irac tra bod cynghreiriaid Ewropeaidd eraill yn gwrthod ymuno â’r rhyfel.

“Mae angen i fi wybod pam fod fy mab wedi marw, o ystyried bod Irac yn waeth yn awr nag yr oedd cynt ac wedi dod yn dir i feithrin brawychiaeth.”

Pwysau ar Chilcot

Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi galw am ddyddiad cyhoeddi hefyd – fe ddechreuodd yr ymchwiliad yn ôl yn 2009.

Mae Syr John Chilcot ei hun yn dweud ei fod yn “gwneud cynnydd” ond ei fod ar hyn o bryd yn cael sylwadau gan bobol sy’n cael eu beirniadu yn yr adroddiad.