Fe gafodd o leia’ 58 o bobol eu lladd mewn ymosodiad ym mhrifddinas Irac – un o ddigwyddiadau gwaetha’r blynyddoedd diwetha’.
Yn ôl yr awdurdodau, roedd lorri wedi cael ei ffrwydro mewn marchnad brysur mewn ardal Shi’iaidd yn Baghdad.
Mae’r farchnad yn ardal Sadr City ar ei phrysura’ ar ddydd Iau pan fydd pobol o’r wlad yn dod i mewn i fasnachu.
IS?
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ond mae’n ffitio i batrwm o ymosodiadau gan y garfan eithafol IS.
Mae’r ymosodiadau’n cael eu gweld yn rhybudd i lywodraeth Irac, sydd â mwyafrif Shi’iaidd.
Roedd llawer o’r farchnad wedi cael ei dinistrio yn y ffrwydrad – yn ôl yr awdurdodau, lorri rewgell gyffredin oedd wedi’i defnyddio.