Edwina Hart - 'newyddion da'
Fe fydd 70 o swyddi yn cael eu creu yn Abertawe wrth i gwmni Americanaidd Accelovance sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd yng Nghymru.

Mae’r busnes yn cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ei alluogi i gynyddu’r nifer o weithwyr dros y ddwy flynedd nesaf.

Yn Rockville, Maryland, y mae pencadlys Accelovance ac maen nhw’n arbenigo mewn ymchwil clinigol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar oncoleg, brechlynnau a meddygaeth cyffredinol.

Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaethu datblygu clinigol i’r diwydiant fferyllaeth a biodechnoleg, gan gynnwys treialon clinigol.

‘Prosiect gwych’

“Dyma brosiect gwych i Gymru a buddsoddiad arwyddocaol,” meddai Gweinidog Economaidd, Edwina Hart.

“Mae Cymru’n gwneud enw iddi ei hun fel lleoliad gwych i fusnesau ym myd y gwyddorau ac yn cael ei gweld fel y lle i fod yn y Deyrnas Unedig ar gyfer gwasanaethau fferyllol.”

Yn ôl Prif Weithredwr Accelovance, Steve Trevisan, roedd cefnogaeth y Llywdraeth yn “allweddol” yn eu penderfyniad.