Mae dyn arall o dde Cymru wedi cael ei arestio yn yr ymgyrch i atal caethwasiaeth yn yr ardal.

Fe gyhoeddodd Heddlu Gwent eu bod yn holi dyn 59 oed o Laneirwg ger Caerdydd ar ôl honiadau newydd gan ddyn oedd wedi dioddef o gaethwasiaeth.

Mae’r arestio’n rhan o ymgyrch Operation Imperial sydd ar droed ers mwy na dwy flynedd ac sydd eisoes wedi arwain at garcharu nifer o bobol am gadw gweithwyr yn gaeth a’u cam-drin.

Y cyrch yn parhau

Mae’r dyn o Laneirwg yn cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Ystrad Mynach ynglŷn â honiadau o gynllwyn i gipio person arall.

Yn ôl y Ditectif Uwch Arolygydd Paul Griffiths sy’n arwain Operation Imperial,  mae’r gwaith yn parhau o geisio achub pobol sydd mewn peryg o gael eu cadw’n gaeth a’u hecsploetio.

Fe apeliodd am wybodaeth am droseddau tebyg, gan bwysleisio ei bod yn well tynnu sylw a bod yn anghywir na chadw’n dawel.