Fe fydd rhieni’n cael eu hannog i ddysgu eu plant am sgiliau rheoli arian, o dan gynllun newydd.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Arian a’r Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru wedi dyfarnu £400,000 ar gyfer prosiect tair blynedd i weithio gyda phlant o deuluoedd di-fraint.

Nod y cynllun peilot yw ysgogi a rhoi hyder i rieni i roi crebwyll ariannol i’r genhedlaeth nesaf.

Ymysg y sgiliau fydd yn cael eu datblygu bydd hunanreolaeth, dyfalbarhad, agweddau synhwyrol at arian a gosod targedau ariannol.

Partneriaeth

Fe fydd y prosiect yn cael ei redeg mewn partneriaeth â mentrau Llywodraeth Cymru fel Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg a’r Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant.

Y gobaith yw cyrraedd 1,000 o rieni a 1,600 o blant rhwng 3 ac 11 oed trwy bron i hanner cynghorau Cymru.

Mae ymchwil gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn dangos bod rheolaeth ariannol yn “llai amlwg i blant nag erioed” ond mae’r cyfleoedd i wario’n “cynyddu’n gyflym”.

Effaith rhieni

“Mae ein hymchwil diweddar wedi dangos mai rhieni sy’n cael yr effaith fwyaf ar ymddygiad ariannol eu plant, meddai Lee Phillips, Rheolwr Cymru’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

“O gofio hyn, does neb mewn safle gwell roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i blant i wneud penderfyniadau ariannol da a chyrraedd eu dyheadau ariannol.”