Tony Blair
Fe fydd cymaint â 600,000 o bobol yn cael pleidleisio yn etholiad arweinydd y Blaid Lafur ond mae’r cyn-arweinydd, Tony Blair, wedi rhybuddio bod y blaid yn wynebu cael ei “chwalu” os bydd Jeremy Corbyn yn ennill.
Yr aelod seneddol asgell chwith sydd ar y blaen o hyd wrth i’r cyfnod pleidleisio ddechrau ac mae rhai o’i gefnogwyr wedi beirniadu’r ymyrraeth gan y cyn-Brif Weinidog.
Mewn erthygl ym mhapur y Guardian, mae Tony Blair yn apelio ar yr aelodau i “achub y blaid”, gan ddweud mai dyma’r peryg mwya’ yn ei hanes.
“Mae’r blaid yn cerdded, ei llygaid ynghau, ei breichiau’n ymestyn allan, tros ymyl y dibyn at y creigiau miniog islaw.”
‘Gweithio o blaid Corbyn’
Yn ôl un o gefnogwyr Jeremy Corbyn, yr aelod seneddol Diane Abbott, fe allai ymyrraeth Tony Blair weithio o blaid Jeremy Corbyn ac fe ddywedodd un o’r ymgeiswyr am y dirprwy arweinyddiaeth, Angela Eagle, nad oedd “iaith apocalyptaidd” o ddim help.
Ond, erbyn hyn, mae pedwar aelod seneddol wedi galw am ohirio’r bleidlais oherwydd y peryg fod gelynion y blaid yn gallu cymryd rhan.
O’r 610,000 o bleidleidwyr posib, mae 121,000 wedi talu £3 yn benodol er mwyn cael yr hawl i bleidleisio.
Yn ôl Graham Stringer, fe allai’r blaid wynebu her gyfreithiol os bydd hi’n bwrw ymlaen gyda’r bleidlais fel y mae.
Corbyn yn yr Alban
Ar ôl ymweld â Chymru ddechrau’r wythnos, mae Jeremy Corbyn yn mynd i’r Alban i ymgyrchu heddiw.