Llys y Goron Caerdydd
Mae wyth dyn wedi cael eu hanfon i garchar ar ôl i brotest yn erbyn gormes Israel yn Gaza droi’n gas.
Mae Heddlu De Cymru wedi croesawu’r ddedfryd a rhybuddio protestwyr rhag troi at drais.
Fe gafodd Nicholas Carter, 32, John James Williams, 32, Ashan Malik, 57, Daniel Woods, 23, Barry Murphy, 34, Yussef Asad, 28, a Grant Ashcroft, 23, eu dedfrydu am achosi anrhefn cyhoeddus.
Roedd yr wythfed dyn, Daniel Smout, 26, eisioes wedi pledio’n euog i affräe.
Y cefndir
Fe ddigwyddodd yr helynt ym mis Gorffennaf yn ystod protest yng Nghaerdydd.
Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd sut yr oedd 2,000 i 3,000 o bobol yn gorymdeithio’n heddychlon drwy ganol y ddinas i godi ymwybyddiaeth am Balestina cyn i bethau droi’n flêr.
“Mae Heddlu De Cymru’n cydnabod yr hawl i brotestio’n heddychlon ac fe fyddwn yn gweithio gyda phrotestwyr i hwyluso unrhyw brotest gyfreithiol,” meddai’r Arolygydd dros dro, Dan Howe.
“Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw un sy’n dod ag anrhefn cyhoeddus i’n strydoedd.”