Roedd ceisiadau gan yr awdurdodau am wybodaeth am negeseuon a chyfrifon trydar wedi mwy na dyblu yn ystod y chwe mis diwetha’.
Fe ddatgelodd cwmni Twitter fod gwasanaethau cudd a diogelwch gwledydd Prydain wedi gwneud cais am wybodaeth am ddefnddwyr y wefan 299 o weithiau rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf eleni, a hynny’n ymwneud â 1,041 o gyfrifon.
Mae hynny’n cymharu â 116 cais a 371 o gyfrifon yn ystod ail hanner y llynedd.
Ofn brawychwyr
Yr amheuaeth yw fod y cynnydd yn digwydd oherwydd defnydd mudiadau eithafol fel IS o’r gwefannau cymdeithasol ond, yn ôl Twitter, maen nhw’n gwrthod tua hanner y ceisiadau.
Yn awr, mae’r grŵp ymgyrchu Big Brother Watch yn dweud y dylai’r Llywodraeth gyhoeddi gwybodaeth am geisiadau o’r fath.
Gwledydd Prydain sy’n gyfrifol am 7% o’r holl geisiadau trwy’r byd.