Protest yn Ferguson, Missouri
Mae protest i nodi blwyddyn ers saethu’n farw ddyn 18 oed yn Ferguson, Missouri, wedi troi’n gwffas lle cafodd dyn arall ei saethu.

Fe daniwyd bwledi yn hwyr neithiwr, wrth i rai cannoedd o bobol ymgynnull ar West Florissant Street yn y dre’.

Daeth cadarnhad gan heddlu Louis County fod y dyn a ddechreuodd saethu tuag at yr heddlu, mewn cyflwr “difrifol, ansefydlog” yn yr ysbyty, wedi i’r heddlu ei saethu yntau.

Fe gafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty, ac mae wedi cael llawdriniaeth.

Cyn hynny, fe fu’r protestwyr yn rhwystro traffig ac yn mynd ben-ben â’r heddlu.

Fe laddwyd Michael Brown ar Awst 9, 2014, wedi i’r heddwas Darren Wilson ei saethu ar y stryd yn Ferguson.