Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn wedi addo y bydd yn ailgyflwyno lwfans cynhaliaeth addysg i fyfyrwyr, wrth iddo barhau i frwydro yn ras arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Mewn ymgais i apelio at bleidleiswyr ifanc dywedodd yr ymgeisydd adain chwith y byddai hefyd yn lleihau’r oedran pleidleisio i 16, cynnig budd-daliadau tai i’r rheiny dan 21, a chynnig prentisiaethau sydd yn “talu’n iawn”.
Roedd yr ymgeisydd adain chwith eisoes wedi denu tipyn o sylw dros y penwythnos pan awgrymodd y gallai ystyried adfer Cymal IV o gyfansoddiad y Blaid Lafur, sy’n ymrwymo’r blaid i berchnogaeth gyhoeddus diwydiannau.
Ond mae un o’r ymgeiswyr eraill am yr arweinyddiaeth, Andy Burnham, wedi rhybuddio y gallai Llafur gael eu niweidio’n wael gan aelodau newydd sydd wedi ymuno i bleidleisio dros Corbyn.
‘Dechrau tecach mewn bywyd’
Mae’r cam diweddaraf gan Jeremy Corbyn, sydd eisoes wedi dweud ei fod am sgrapio ffioedd dysgu a chynnig grantiau i fyfyrwyr, yn awgrymu ei fod yn awyddus i sicrhau pleidleisiau pobl ifanc.
“Er mwyn ennill yr etholiad nesaf mae’n rhaid i Lafur sefyll dros economi sy’n tyfu, nid economi sy’n torri ac sydd yn lladd twf, atal adferiad ac yn gwneud pethau’n anodd i bobl ifanc,” meddai Jeremy Corbyn.
“O dan fy arweinyddiaeth i, fe fyddwn ni yn y llywodraeth Lafur nesaf yn ymrwymedig i sicrhau bod breuddwydion oedolion ifanc o ddechrau tecach mewn bywyd yn dod yn realiti.”
Rhybudd am aelodau
Fodd bynnag, mae Andy Burnham – sydd yn brwydro am yr arweinyddiaeth â Corbyn, Yvette Cooper a Liz Kendall – wedi ymuno â nifer o aelodau’r blaid sydd yn pryderu ynglŷn â rhai o’i haelodau newydd.
Yn ôl Andy Burnham mae’n debygol bod rhai o’r aelodau Llafur newydd, sydd wedi gallu ymuno am £3 yn unig, “ddim yn meddwl am beth sydd orau i’r blaid”.
Y gred yw bod 190,000 o’r 390,000 sydd yn gymwys i bleidleisio am yr arweinyddiaeth yn bobl sydd wedi ymuno â’r blaid ers yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Mae Llafur wedi mynnu fodd bynnag fod ganddyn nhw ffyrdd o atal pobl sydd yn ceisio ymuno yn dwyllodrus.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod aelodau o bleidiau eraill gan gynnwys rhai bychan sosialaidd a chomiwnyddol, yn ogystal ag aelodau o’r blaid Geidwadol, wedi ymuno er mwyn pleidleisio dros Jeremy Corbyn.