Mae dau o filwyr wedi cael eu lladd a phedwar arall wedi’u hanafu yn dilyn ffrwydrad yn ne-ddwyrain Twrci.

Roedd y bomiwr wedi targedu llu o gerbydau milwrol yn nhref Lice yn Diyarbakir.

Daw’r ffrwydrad ddiwrnod yn unig ar ôl i fyddin Twrci fomio gwersylloedd Cwrdaidd yng ngogledd Irac – y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers i broses heddwch ddechrau yn 2012.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad.

Dyma’r ail ffrwydrad o fewn ychydig ddiwrnodau wrth i brotestwyr gyhuddo heddlu’r wlad o gydweithio â’r Wladwriaeth Islamaidd.